Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant
Job Description
Mae Human Resourcing yn falch i gyhoeddi ein bod yn chwilio’n ecsgliswif am Gyfarwyddwr Pobl a Diwylliant newydd ar gyfer ein sianel genedlaethol S4C.
Yn gyfle hybrid parhaol wedi’i leoli naill ai yng Nghaerdydd, Caerfyrddin neu yng Nghaernarfon, mae hwn yn gyfnod eithriadol o gyffrous i ymuno â gweithlu anhygoel ac ymroddedig, gyda ffocws ar drawsnewid diwylliannol.
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol am y rôl a’r newidiadau cadarnhaol o fewn S4C, cysylltwch yn uniongyrchol â Mera Mann. Cyfweliadau i’w cynnal ar 1 Hydref 2024.
Successful Applicant
Mae gan S4C weithlu anhygoel ac ymroddedig o tua 125 o unigolion wedi eu lleoli yn ein swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac yn gweithio yn hybrid o’u cartrefi.
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â ni. Yn dilyn cyfnod heriol, yr ydym am sicrhau ffocws ar ein pwrpas a’n blaenoriaethau strategol. Yn ganolog i lwyddiant hyn bydd sicrhau fod gan S4C amgylchedd gwaith cadarnhaol, cefnogol a chynhwysol, sy’n buddsoddi yn ei gweithlu i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol er mwyn perfformio’n dda a fydd yn sicrhau arlwy aml blatfform ardderchog ar gyfer ein cynulleidfaoedd.
Fel aelod o’r tîm rheoli, bydd y Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth sy’n cyflawni ein dyheadau ar gyfer ein staff, gan ddenu, cadw a datblygu gweithlu amrywiol a thalentog, a chreu amgylchedd sy’n caniatáu i bawb sy’n gweithio gyda ni deimlo’n ddiogel a bod y gorau y gallent fod.
Mae hon yn rôl sy’n weladwy iawn ar bob lefel, a bydd gofyn i chi feithrin perthnasoedd cryf a dibynadwy ar draws y tîm arweinyddiaeth, ein Bwrdd, ein staff a’u cynrychiolwyr ynghyd â’n partneriaid.
Rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig sy’n dod â phrofiad o ddatblygu a gweithredu strategaethau pobl, gyda gwybodaeth gref o ddiwylliant a datblygiad sefydliadol, ymgysylltu gyda’r gweithle yn gadarnhaol, materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a phrofiad eang o gynghori ar faterion a datblygu Adnoddau Dynol technegol. Yn wneuthurwr newid sy’n annog y rhai o’u cwmpas i gamu y tu allan i’w parth cysur, bydd gennych ddull hyderus a gwybodus o ymdrin â phopeth sy’n ymwneud â phobl a diwylliant ac ymrwymiad profedig i hyrwyddo tegwch a chynhwysiant yn y gweithle, fel bod pawb yn teimlo eu bod yn gallu bod yn ddilys ac y gorau y gallent fod yn y gwaith.
Mae’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig i lefel uwch yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.
Manylion eraill
Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Bydd gofyn ichi fynychu swyddfeydd eraill S4C o bryd i’w gilydd yn unol a gofynion y gwasanaeth
Cyflog: £85,000 – £90,000
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn yn cynyddu i 32 diwrnod gyda hyd gwasanaeth. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o’r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%, ond mae modd ichi gyfrannu mwy os dymunwch.
Buddion eraill yn cynnwys:
Yswiriant Bywyd
Tal salwch galwedigaethol
Cynllun Seiclo i’r gwaith
Cynllun Cynorthwyo Staff
Buddion tal mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu
Dyddiad Cau: Hanner dydd 12 Medi 2024
Byddwn yn edrych i gynnal cyfweliadau ffurfiol yng Nghanolfan yr Egin Caerfyrddin ddiwedd Medi 2024.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
PWRPAS Y SWYDD
Yn aelod o’r Tîm Rheoli mae gennych rôl allweddol yn datblygu, cyfleu a sicrhau gwireddiad strategaeth, gweledigaeth a gwerthoedd S4C.
Nod y Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant yw meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, datblygu diwylliant sefydliadol cryf, ac alinio arferion Adnoddau Dynol ag amcanion S4C.
Yn arwain ein strategaeth a swyddogaeth Pobl a Diwylliant, byddwch yn arwain ac yn rheoli ystod o weithgareddau busnes gan gynnwys mentrau ymgysylltu â cyflogeion, rheoli a dyblygu talent a pherfformiad, recriwtio a chadw talent, lles, cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth y gweithlu a gweithlu’r dyfodol, tâl, buddion, polisïau cyflogaeth a newid sefydliadol.
Yn cydbwyso blaenoriaethau strategol a gweithredol ein Pobl a’n Diwylliant i greu amgylchedd sy’n sbarduno’r perfformiad gorau posibl, byddwch yn cynghori a chydweithio gyda’n Harweinwyr a Rheolwyr i sicrhau ein bod yn cyflawni ein strategaeth drwy ein Pobl a’n Diwylliant ac yn gweithredu yn unol â chyfraith cyflogaeth ac arfer da.
PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
Arwain ar a pharatoi gwasanaeth Adnoddau Dynol rhagweithiol a chynhwysfawr i arweinwyr, rheolwyr a staff S4C, gan gynnwys:
- Creu a gwireddu strategaeth ar gyfer ein Pobl a’n Diwylliant yn y gweithlu.
- Arwain ar ddatblygu a chyflenwi model gweithredu Pobl a Diwylliant cadarn er mwyn gyrru mentrau strategol ac ateb gofynion gweithredol ‘adnoddau dynol’.
- Arwain ar feithrin amgylchedd gweithio cadarnhaol i hybu parch, cydraddoldeb a chynhwysiant gan sicrhau fod amrywiaeth yn ganolog i ddiwylliant S4C.
- Arwain ar y gwaith o sicrhau lles ein staff er mwyn sicrhau eu bod nhw’n taro cydbwysedd iachus rhwng gwaith a bywyd personol ac yn derbyn cefnogaeth bwrpasol gan eu rheolwyr llinell.
- Arwain ar sbarduno diwylliant o berfformiad uchel, gyda phobl sydd wedi ymgysylltu yn gadarnhaol er mwyn cyflawni strategaeth S4C drwy ein pobl
- Arwain a dylanwadu rhanddeiliaid traws-swyddogaethol ar faterion sy’n ymwneud â ‘newid rheoli’ o safbwynt ein Pobl a’n Diwylliant gwaith.
- Cydweithio, cynghori a dylanwadu i sbarduno newidiadau systemig yn ein sefydliad drwy ein harweinyddiaeth.
- Gweithio’n agos gyda’n Tîm Rheoli a rheolwyr llinell i greu ymagwedd a sgiliau cadarn a theg at lwybr gyrfa ein Pobl o safbwynt recriwtio a dethol, hyfforddi a datblygu, olyniaeth, perfformiad, ymgysylltu a chadw i gyd-fynd â gwerthoedd S4C.
- Datblygu a gweithredu strategaethau ymgysylltu â chyflogai a gweithio gyda rheolwyr a chynrychiolwyr staff i’w hymgorffori o fewn S4C.
- Yn cydweithio gyda Phenaethiaid Adrannau/Arweinwyr tîm, eu cynghori a chydlynu’r gwaith o asesu a chreu cynllun hyfforddi corfforaethol a phersonol a chynllun prentisiaeth, ynghyd â chynllun datblygu olyniaeth a rheoli talent fydd yn cefnogi strategaeth S4C.
- Cynghori a chefnogi’r Tîm Rheoli a Phenaethiaid Adrannau ar faterion yn ymwneud â’r gweithlu a datblygu strwythurau sefydliadol, a pharatoi ystadegau ac adroddiadau perthnasol yn ôl y gofyn.
- Paratoi cefnogaeth, ac annog rheolwyr fel eu bod yn arwain a datblygu eu staff yn adeiladol ac effeithlon er mwyn sicrhau timau sy’n perfformio i safon uchel.
- Datblygu a chynnal perthynas effeithiol gyda rheolwyr wrth ddarparu cyngor arbenigol strategol a gweithredol ar bob agwedd o gyflogaeth gan gynnwys recriwtio a dethol, lles, ymsefydlu, perfformiad, salwch tymor hir a byr, iechyd galwedigaethol, absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu/rhiant a rennir, gweithio hyblyg, disgyblaeth, cwyno, ailstrwythuro, TUPE, diswyddo, ac yn y blaen.
- Datblygu a gwireddu cynllun hyfforddi corfforaethol priodol, ac mewn partneriaeth gyda Rheolwyr Llinell sicrhau datblygiad proffesiynol pwrpasol er mwyn sicrhau bod S4C yn cyflawni ei strategaeth a bod ein gweithlu yn datblygu yn bwrpasol ar gyfer y dyfodol.
- Cynghori a chefnogi staff gan sicrhau eu bod yn gallu derbyn cefnogaeth bwrpasol yn y gwaith gan y tîm Pobl a Diwylliant.
- Meithrin cysylltiadau gwaith da gyda chynrychiolwyr undebau a chynrychiolwyr staff gan gynrychioli S4C mewn trafodaethau perthnasol.
- Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud a Phobl a Diwylliant yn esblygu a datblygu yng ngoleuni deddfwriaethol, arfer da a newidiadau trefniadaethol.
- Yn gyfrifol am y broses cyflogau, rheoli’r cytundeb gyda’r Darparwyr cyflogau sydd wedi allanoli, gan sicrhau fod manylion cywir yn cael eu trosglwyddo iddynt yn brydlon.
- Cydweithio gyda’r Prif Swyddog Cyllid er mwyn sicrhau fod y wybodaeth a threfniadau statudol yn cael eu cyflawni.
- Rheoli’r cytundeb gyda’r Ymgynghorwyr pensiynau sydd wedi allanoli, gan sicrhau fod manylion cywir yn cael eu trosglwyddo iddynt yn brydlon.
- Paratoi adolygiadau a chyngor wedi ei seilio ar ymchwil ynglŷn â chyflogau a buddiannau. Bod yn gyfrifol am weithredu’r Panel Adnoddau.
- Sicrhau arweinyddiaeth, cefnogaeth a datblygiad y tîm Pobl a Diwylliant, fod prosesau effeithlon mewn lle, a bod yn gyfrifol am reolaeth a rhedeg gwaith y tîm o fewn y gyllideb briodol.
- Arwain y Grŵp Cyflawn Hyfforddiant Sector er mwyn sicrhau llwyddiant strategaeth hyfforddiant sector S4C.
- Sicrhau fod gwybodaeth berthnasol, gywir ac amserol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Pobl a Thaliadau a’r Bwrdd Unedol gan baratoi a chyflwyno adroddiadau ac argymhellion.
- Sicrhau fod adroddiadau statudol ac eraill sy’n ymwneud â gwaith yr adran yn cael eu paratoi a’ cyflwyno yn gywir ac ar amser.
Fel Aelod o’r Tim Rheoli ac Arweinydd mae gennych rôl allweddol yn datblygu, cyfleu a sicrhau gwireddiad strategaeth, gweledigaeth a gwerthoedd S4C. Byddwch yn:
- Sicrhau diwylliant gwaith cadarnhaol a chynhwysfawr sy’n galluogi S4C i ddenu, ysgogi, datblygu a chadw gweithlu ymgysylltiedig sy’n arloesol, yn atebol, ac yn perfformio ar lefel uchel.
- Gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol, draws-sefydliadol, sy’n datblygu gwasanaethau gwych i’n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol, a chynhwysfawr sy’n trin pawb gyda pharch, ac yn byw a hybu gwerthoedd S4C.
- Paratoi arweiniad strategol ar drawsnewidiad corfforaethol, ac yn sicrhau fod datblygiadau gwasanaethau yn cyflawni’r strategaeth wrth sicrhau gwerth am arian ac yn rheoli risg yn bwrpasol.
- Datblygu perthnasau gyda rhanddeiliaid strategol a chyllidwyr er mwyn datblygu a hybu ein gwasanaethau ac yn gyfrifol am gynrychioli S4C mewn cyfarfodydd neu ddigwyddiadau ynghyd a gweithredu fel ei llysgennad.
- Gyfrifol am sicrhau bod eich adrannau yn gweithio yn unol â holl bolisïau a gweithdrefnau S4C gan gynnwys Polisïau Iechyd a Diogelwch, Diogelu data, Cyllid, Rheoli Risg, Cyfle Cyfartal & Chynhwysiant a Materion Cyflogaeth.
- Sicrhau rheolaeth ariannol gadarn ar draws eich maes.
- Sicrhau cyfathrebu clir, effeithiol, pwrpasol ac amserol i’ch adran ac ar draws S4C fel bo’n briodol.
- Adolygu, monitro a gwirio ansawdd gwaith staff dan eich goruchwyliaeth gan roi targedau ac arweiniad clir a chefnogaeth bwrpasol er mwyn sicrhau safon a datblygiad perfformiad.
- Sicrhau lles y staff dan eich goruchwyliaeth gan sicrhau eu bod nhw’n taro cydbwysedd iachus rhwng gwaith a bywyd personol, ac yn cymryd cyngor pwrpasol gan Adnoddau Dynol fel bo’r angen.
- Byw a hybu gwerthoedd S4C.
- Dirprwyo ar ran y Prif Weithredwr fel bo angen.
- Mynychu ac yn adrodd i’r Bwrdd Unedol ar ddatblygiad y strategaeth
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill.
Byddwch hefyd yn:
- Ymwybodol o strategaeth S4C, a sicrhau eich bod yn cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn ôl y gofyn sy’n cynnwys gweithio o fewn canllawiau Iechyd a diogelwch, amrywiaeth a chynhwysiant, gwarchod data, canllawiau ariannol ac yn y blaen.
- Cyfrannu mewn ffordd bositif tuag at ddiwylliant a chyflawni strategaeth S4C.
- Cydweithio gyda’ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu eich perfformiad eich hun.
- Cyfrannu at a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
- Sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol, draws-sefydliadol, sy’n datblygu gwasanaethau gwych i’n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysfawr sy’n trin pawb gyda pharch.
Manyleb Person
Hanfodol
- Cymhwyster CIPD lefel 7 neu gyfatebol.
- Profiad 5+ mlynedd ddofn o weithio ym maes Adnoddau Dynol yn cyfuno gweithio ar ystod eang o faterion gweithredol AD tra hefyd yn gweithio ar lefel strategol.
- Profiad o weithio gyda thimau i drawsnewid amcanion newydd y sefydliad.
- Profiad dwfn o baratoi cyngor AD ar lefel uwch.
- Profiad o ddatblygu strategaethau Pobl a Diwylliant yn llwyddiannus.
- Gwybodaeth arbenigol o Adnoddau Dynol.
- Cefndir o weithio ar ystod eang o faterion AD strategol a gweithredol gyda gwybodaeth ragorol am y tueddiadau a’r datblygiadau yn y maes.
- Gallu eithriadol i reoli pobl ac arwain ac i baratoi cyngor AD gwybodus i eraill.
- Partner dibynadwy a chydweithredwr sy’n gallu meithrin ymddiriedaeth a chreu perthynas gref.
- Dylanwadwr o’r radd flaenaf gyda sgiliau cydweithio cryf a’r gallu i ddod â thimau gwahanol at ei gilydd i gyd-fynd ag un cynllun.
- Sgiliau rheoli prosiect, dadansoddol a rheoli rhanddeiliaid cryf sy’n eich galluogi i weithio ar draws pob lefel o’r sefydliad.
- Arddull creadigol ac arloesol sy’n canolbwyntio ar atebion.
- Sgiliau dadansoddi cryf a’r gallu i wneud penderfyniadau sy’n cael eu gyrru gan ddata.
- Y gallu i addasu’n gyflym i dirwedd fusnes sy’n newid. Gallu symud o feddwl strategol i weithredu ymarferol yn ddi-dor.
- Y gallu i gyfathrebu ac i weithio yn effeithiol yn y Gymraeg.
- Angerdd dros bobl ac ymdrechu bob amser am ragoriaeth, gyda’r egni ar gyfer y filltir ychwanegol er budd ein pobl a datblygu ein busnes.
- Dealltwriaeth ac ymrwymiad i gyflawni Strategaeth S4C.
- Dealltwriaeth ac ymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant.
- Mae empathi, ansawdd a dod o hyd i ddatrysiadau yn eiriau sy’n disgrifio eich dull o weithio. Lefel uchel o uniondeb personol, a fynegir drwy ymddygiad.
- Hunanymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r angen i fod yn fodel rôl i eraill.
- Dangos Gwerthoedd ac Ymddygiadau sy’n cyd-fynd â gwerthoedd S4C.
- Parodrwydd i weithio’n hyblyg.
Dymunol
- Gradd
- Profiad ar lefel Cyfarwyddwr.
- Rhywfaint o wybodaeth ar y Sector Darlledu/Creadigol.
- Arbenigedd annog arweinwyr ac o ddatblygu talent.
|